NFU Cymru yn lansio papur newydd ar dir comin yn Ffair Aeaf Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru

28 Tachwedd 2022

Report front cover

Mae blaenoriaethau deiliaid hawliau tir comin yn cael sylw mewn adroddiad newydd  a lansiwyd gan NFU Cymru heddiw (Dydd Llun, Tachwedd 28ain) yn Ffair Aeaf Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru.

Mae’r ddogfen Llunio Dyfodol Ffermio Cymru: Blaenoriaethau Polisi NFU Cymru ar gyfer Tir Comin yn amlinellu’r heriau a’r cyfleoedd penodol i ffermwyr Cymru sydd â hawliau tir comin, mewn cyfnod o ddiwygio polisi amaeth yng Nghymru.

Hanfodol

Mae bron 10% o dir amaethyddol Cymru wedi ei gofrestru fel tir comin, a hwnnw’n dir pori gwerthfawr i’r ffermwyr rheiny sy’n meddu ar hawliau -  busnesau fferm sy’n hanfoodol ar gyfer yr economi wledig, yn enwedig yn ardaloedd ucheldir Cymru. 

Ers canrifoedd, teuluoedd amaethyddol sydd wedi rheoli tiroedd comin. Mae’r tiroedd hyn yn bwysig i’r gymdeithas ehangach yn ogystal oherwydd y gwasanaethau ecosystem a’r buddion lles y maent yn eu darparu. Mae’n rhan annatod o’n treftadaeth ddiwylliannol, ein traddodiadau a’n hiaith.

Pwysigrwydd tiroedd comin

Gan ystyried pwysigrwydd tiroedd comin i Gymru, sefydlodd  Bwrdd Ardaloedd Llai Ffafriol NFU Cymru  Grŵp Ffocws Tir Comin er mwyn ystyried effaith  newidiadau polisi ar ffermwyr sy’n meddu ar hawliau tir comin mewn cyfnod o newid digynsail.

Mae’r ddogfen Llunio Dyfodol Ffermio Cymru: Blaenoriaethau Polisi NFU Cymru ar gyfer Tir Comin yn cynnwys nifer o argymhellion a fydd yn sicrhau bod fframweithiau polisi’r dyfodol yn parhau i alluogi deiliaid hawliau tir comin i ddal ati i ddarparu buddion ar gyfer pobl a chymunedau Cymru.

Dywedodd Cadeirydd Bwrdd Ardaloedd Llai Ffafriol NFU Cymru, Kath Whitrow: “Mae tir comin yn adnodd eithriadol o bwysig i’r busnesau fferm rheiny sy’n ddeiliaid hawliau tir comin, i’r economi wledig  -  yn enwedig yn ucheldiroedd Cymru – ac ar gyfer y gymdeithas yn ehangach o ran y buddion niferus sy’n cael eu darparu. Mae tir comin hefyd yn allweddol o ran ein treftadaeth ddiwylliannol, ein traddodiadau a’n hiaith. Mae parhau i reoli tir comin yn ganolog ar gyfer gweithredu amcanion Llywodraeth Cymru o ran hinsawdd a bioamrywiaeth, yn ogystal ag amcanion ehangach.

“Wrth ystyried pwysigrwydd tir comin yng Nghymru, dylai Cynllun Ffermio Cynaliadwy arfaethedig Llywodraeth Cymru fod ar gael ar gyfer yr holl ddeiliaid tir comin. Dylid sicrhau bod ffordd i ddeiliaid hawliau tir comin i gael mynediad at y tair haen o gefnogaeth: yr haen gyffredinol, yr haen ddewisol a’r haen gydweithredol”

“Heb ymyrraeth addas mewn  polisi a chefnogaeth drwy bolisi amaeth y dyfodol, byddai sefyllfa economaidd busnesau fferm yng Nghymru sy’n rheoli tir comin, dan fygythiad. Mae’n bosib y byddai rheolaeth ragweithiol drwy bori, sy’n hanfodol ar gyfer cynnal a chadw cyflwr tir comin, yn peidio â digwydd.

“O ganlyniad, mae NFU Cymru o’r farn bod angen i Lywodraeth Cymru, drwy ei pholisiau amaethyddol yn y dyfodol, ddiogelu i’r dyfodol y buddion niferus o ran yr economi, yr amgylchedd, y gymdeithas a’n diwylliant a ddarperir gan ffermwyr sy’n ddeiliaid hawliau tir comin. Bydd darparu sefydlogrwydd i sicrhau ffermio a chynhyrchu bwyd ar dir comin yn allweddol. Yr unig ffordd y gall hyn ddigwydd yw drwy sicrhau bod tir comin yn deilwng i dderbyn cefnogaeth drwy’r mesur sefydlogrwydd sylfaenol.

“Mae’r ddogfen Llunio Dyfodol Ffermio Cymru: Blaenoriaethau Polisi NFU Cymru ar gyfer Tir Comin yn amlygu anghenion deiliaid hawliau tir comin Cymru. Gobeithio bydd argymhellion Grŵp Ffocws Tir Comin NFU Cymru yn cael eu hystyried wrth i Cynllun Ffermio Cynaliadwy Llywodraeth Cymru ddatblygu ymhellach.”


Gofynnwch gwestiwn i ni am y dudalen hon

Unwaith y byddwch wedi cyflwyno’ch ymholiad bydd NFU Cymru yn cysylltu â chi ac, os yw’n briodol, bydd eich cwestiwn yn cael ei drosglwyddo i un o’n timau polisi.

You have 0 characters remaining.

By completing the form with your details on this page, you are agreeing to have this information sent to the NFU for the purposes of contacting you regarding your enquiry. Please take time to read the NFU’s Privacy Policy if you require further information.

This site is protected by reCAPTCHA and the Google Privacy Policy and Terms of Service apply.