Ein swyddfeydd

Mae gan NFU Cymru rwydwaith o 36 swyddfa leol sy’n cael eu cefnogi’n ariannol gan NFU Mutual. Mae Ysgrifenyddion Grwp NFU, sy’n ffurfio staff y swyddfeydd hyn,  yn darparu cyngor proffesiynol a chymorth i aelodau NFU Cymru.

Yn chwarae rhan hanfodol hefyd ym mhob sir ceir Ymgynghorwyr Sirol NFU Cymru yn cynnal perthynas sylfaenol gydag aelodau ar lefel leol.

Mae gennym hefyd swyddfeydd yn Swydd Warwick, San Steffan a Brwsel. Lleolir ein prif swyddfa ar Faes y Sioe Frenhinol, Llanelwedd.