Amdanom ni

NFU Cymru yw’r sefydliad amaethyddol blaenllaw sy’n cynrychioli ac yn hyrwyddo holl ffermwyr a thyfwyr Cymru.

Yn NFU Cymru rydyn ni’n hybu a gwarchod buddiannau ein haelodau trwy ddylanwadu a chydweithio â llywodraeth, y gadwyn gyflenwi a defnyddwyr, er mwyn sicrhau dyfodol sefydlog a chynaliadwy ac i ennill y fargen orau ar gyfer ein haelodau.

NFU Cymru yw llais ffermio Cymru ac ein nod yw gwarchod eich buddiannau a gosod yr amodau sy’n galluogi busnesau ffermio cynhyrchiol, proffidiol a blaengar i ffynu a thyfu.

Mae gennym dîm ymroddedig a phroffesiynol  o staff arbenigol wedi eu lleoli ym mhob sir yng Nghymru yn ogystal â phrif swyddfa ar Faes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd. Yn ychwanegol mae gennym swyddfeydd yng Nghaerdydd, San Steffan a Brwsel, sy’n golygu bod ein pobl wrth galon y cyfundrefnau gwleidyddol sy’n dylanwadu ein diwydiant.

Ein cryfder yw ein niferoedd

Ein cryfder yw ein niferoedd. Gyda llawer o filoedd o aelodau, cawn ein clywed lle mae’n bwysig, p’un ai’n lleol, yn genedlaethol neu’n rhyngwladol. Mae pob un aelod unigol yn bwysig ac yn gwneud NFU Cymru’n gryfach. Gall NFU Cymru gryfach fod yn fwy dylanwadol, cyflawni mwy a rhoi i ni lais lobïo mwy grymus ac unol.

Mae NFU Cymru eisoes wedi profi ei gwerth trwy gynrychiolaeth lwyddiannus er budd amaethyddiaeth a gallwch fod yn sicr y bydd NFU Cymru’n parhau i fod yn hyrwyddwyr amaethyddiaeth Cymru gyda’r un argyhoeddiad ac angerdd wnaethom ni ddangos yn ystod y ganrif ddiwethaf.

Ein gweledigaeth

Gweledigaeth NFU Cymru yw sector ffermio cynhyrchiol, proffidiol a blaengar sy’n cynhyrchu bwyd byd-enwog, sy’n hinsawdd gyfeillgar mewn amgylchedd a thirwedd sy’n darparu cynefinoedd i’n natur ffynnu. Bwyd a ffermio Cymreig yn darparu buddion economaidd, amgylcheddol, diwylliannol a chymdeithasol i holl bobl Cymru wrth gyflawni ein huchelgais ar gyfer amaethyddiaeth sero net erbyn 2040.

Rydym ni yma ar eich cyfer

P’un ai’n ffermwr da byw, tyfwr neu’n rheoli daliad cymysg, rydym ni yma ar eich cyfer. Cefnogwch eich diwydiant, gwarchodwch eich dyfodol. Ymunwch â NFU Cymru heddiw.


Gofynnwch gwestiwn i ni am y dudalen hon

Unwaith y byddwch wedi cyflwyno’ch ymholiad bydd NFU Cymru yn cysylltu â chi ac, os yw’n briodol, bydd eich cwestiwn yn cael ei drosglwyddo i un o’n timau polisi.

You have 0 characters remaining.

By completing the form with your details on this page, you are agreeing to have this information sent to the NFU for the purposes of contacting you regarding your enquiry. Please take time to read the NFU’s Privacy Policy if you require further information.

This site is protected by reCAPTCHA and the Google Privacy Policy and Terms of Service apply.