Mae aelodaeth NFU Cymru yn golygu bod gennych chi lais ar y rheng wleidyddol uchaf, cefnogaeth leol, cyngor ac arweiniad proffesiynol, disgowntiau i arbed arian, a chyfathrebiadau sydd yn eich cadw'n wybodus. Gyda'n gilydd mae gennym ni gyfle i sicrhau bod dyfodol amaeth yn byrlymu â chyfleoedd, a bod cynhyrchu bwyd yn derbyn y gydnabyddiaeth haeddiannol.
NFU Cymru. Rydym ni yma ar gyfer pob un ohonoch chi.
Pa aelodaeth sydd i chi?
Ymunwch â NFU Cymru gydag aelodaeth Ffermwr a Thyfwr
Ymunwch â dros 47,000 busnes ffermio a thyfu arall sydd yn manteisio o fod yn rhan o sefydliad sydd yn unedig dros yrru newid a chyfleoedd. Fel corff cynrychioladol mwyaf amaeth a garddwriaeth y DU, bydd aelodaeth yn rhoddi llais i chi pan mae'n cyfri, ble mae'n cyfri. Byddwch hefyd yn cael mynediad i wybodaeth, cyngor ac arweiniad, gwasanaethau proffesiynol a gwobrau aelodaeth, a chyfathrebiadau i'ch cadw yn wybodus.
Mae aelodaeth Gyswllt o'r NFU yn croesawi unigolion sydd yn gysylltiedig â'r sector amaethyddol, neu'r rhai sydd yn hoff o gadw'n wybodus o'r newyddion a'r datblygiadau diweddaraf. Mae aelodaeth Gyswllt yn darparu mynediad i ddeunyddiau sydd at olwg dethol aelodau, cyngor a chefnogaeth, ynghyd â buddion a disgowntiau aelodaeth heb eu hail.
Ymunwch â NFU Cymru gydag aelodaeth Myfyriwr & Ffermwr Ifanc
Mae aelodaeth Myfyriwr a Ffermwr Ifanc yr NFU yn rhad ac am ddim i fyfyrwyr ac aelodau'r CFfI sydd dan 27 mlwydd oed. Mae'n eich galluogi i leisio eich barn a chyfranni tuag at ddyfodol ffermio a garddwriaeth, a byddwch chi yn derbyn mantais o gael mynediad i arbenigwyr yn y diwydiant, cylchgronau rheolaidd a chyfathrebiadau ar e-bost, a chyfleoedd i arbed arian.
Ymaelodwch fel aelod Cefn Gwlad yr NFU a dangoswch eich cefnogaeth dros fwyd ac amaeth ym Mhrydain. Byddwch yn mwynhau derbyn cylchgrawn Cefn Gwlad/Counryside yn y post bob mis ynghyd â llu o fuddion a gwasanaethau aelodaeth eraill fydd yn eich galluogi i wneud y gorau o'ch amser yng nghefn gwlad Prydain.
I ymuno ag NFU Cymru ffoniwch 0370 428 1401 neu cliciwch ar y botwm ‘Ymuno ag NFU Cymru’ a chwblhewch y ffurflen galw’n ôl.
Mae aelodaeth NFU Cymru yn golygu…
Bod eich llais yn cael ei glywed
Cefnogaeth bersonol lleol
Cyngor ac arweiniad
Gwobrau aelodaeth sylweddol
Ymdeimlad o berthyn
Eich bod yn cadw'n wybodus
Gyda'n gilydd rydym yn cyflawni ar faterion mawrion
O symbylu cefnogaeth dros filiwn o bobl trwy gyfrwng ein deiseb safonau bwyd, i arbed ffermwyr £450 am bob 1,000 litr o danwydd a brynir ar gyfer y fferm, rydym bob amser wedi canolbwyntio ar gyflawni canlyniadau cadarn. Gyda'n gilydd mae gennym gyfle i sicrhau bod dyfodol amaeth yn byrlymu â chyfleoedd a bod cynhyrchu bwyd yn derbyn y gydnabyddiaeth haeddiannol. Gwyliwch y ffilmiau isod i ddarganfod mwy am ein gwaith.