Adroddiadau NFU Cymru

Dewch o hyd i adroddiadau NFU Cymru a gyhoeddir gan ein timau polisi.

Next Gen Report Front Cover Welsh
Fframio'r dyfodol ar gyfer y genhedlaeth nesaf - Mehefin 2023

Fel ceidwaid cefn gwlad, mae pob cenhedlaeth o ffermwyr yn dymuno gadael eu fferm mewn gwell sefyllfa i’r genhedlaeth nesaf. Mae Cymru yn gartref i sector ffermio ffrwythlon ac amrywiol a’r ieuenctid yw ei chalon. Mae'r adroddiad yma yn tanlinellu'n gyfynion polisi are gyfer y cenhedlaeth nesaf.

Shaping Welsh Farming's Future Welsh
Siapio Dyfodol Ffermio yng Nghymru - Mehefin 2022

Creda NFU Cymru bod cyflwyniad y Ddeddf Amaeth (Cymru) yn darparu cyfle unigryw i ni ddylunio, adeiladu a gweithredu polisi bwyd a ffermio cynhwysfawr ‘o’r fferm i’r fforc’ sydd wedi ei greu yng Nghymru.

Our Journey To Net Zero COP 21
Ein taith i sero net: nod ffermio 2040 - Hydref 2021

Cyn COP26 yn Glasgow, rhoddodd yr NFU ddiweddariad ar ei uchelgais sero net ar gyfer 2040, sut mae ffermwyr Prydain yn cynhyrchu bwyd sy’n gyfeillgar i’r hinsawdd a’r hyn sydd ei angen i sicrhau bod y diwydiant yn parhau i fod yn arweinydd byd-eang.

Tyfu Gyda'n Gilydd
Tyfu Gyda'n Gilydd - Medi 2021

Yn erbyn cefndir o dargedau uchelgeisiol i gynyddu gorchudd coed yng Nghymru er mwyn helpu i liniaru ac addasu i’r heriau a gyflwynir gan newid yn yr hinsawdd, mae papur strategaeth NFU Cymru yn nodi’r rhwystrau a’r cyfleoedd sy’n bodoli i gyflawni’r amcanion hyn tra’n diogelu cymunedau gwledig ffyniannus a sicrhau’r parhau i gynhyrchu bwyd fforddiadwy o ansawdd uchel.

Ffermio yn ucheldir Cymru
Ffermio yn ucheldir Cymru - Tachwedd 2020

Lansiwyd NFU Cymru'r adroddiad Ffermio yn ucheldir Cymru, a ategwyd gan arolwg o dros 750 o ffermwyr, yn y gynhadledd ucheldir Cymru yn 2020. Mae’r ddogfen yn datgelu bod 88% o’r rhai a ymatebodd i’r arolwg wedi dweud ei bod yn bwysig iawn y dylai polisi amaethyddol Cymru yn y dyfodol fod yn sail i gynhyrchu bwyd, a sicrhau bod gan ddefnyddwyr gyflenwad sefydlog o fwyd fforddiadwy.

Doing Our Bit For Net Zero Pic
Gweithio tuag at net zero - Awst 2020

Ynghyd â’r NFU, mae NFU Cymru wedi cyhoeddi 26 enghraifft o sut mae ffermwyr yn gweithio tuag at sero net ar eu ffermydd, gan ddangos sut y gall ffermwyr eraill wneud newidiadau i’w busnesau i helpu i gyflawni uchelgais sero net 2040 yr NFU.

Cyflawni sero net
Cyflawni sero net - Gorffennaf 2020

NFU Cymru and the NFU have set the ambitious goal of reaching net zero greenhouse gas emissions (GHG) across the whole of agriculture in Wales and England by 2040. This is our contribution to Welsh Government’s ambition of net zero by 2050. Mae'r adroddiad hwn yn nodi sut y bydd y diwydiant yn cyflawni ei nod.

The Water Standard (1)
Y Safon Dŵr - Mawrth 2020

Yn dilyn cwblhau’r prosiect Dull Rheoli Maetholion a Arweinir yn Wirfoddol gan ffermwyr a ariannwyd gan NFU Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru, gyda chefnogaeth Bwrdd Llywio’r prosiect gan Dŵr Cymru, Llywodraeth Cymru ac Undeb Amaethwyr Cymru, mae’r adroddiad yn amlinellu’r gyrrwyr y tu ôl i gofleidio dŵr a cyflawniadau'r prosiect.

Amaethyddiaeth Cynaliadwy
Amaethyddiaeth Cynaliadwy - Gorffennaf 2019

Mae amaeth yn defnyddio 80% o dir Cymru; o ganlyniad, mae ffermwyr yng Nghymru yn chwarae rhan anhepgor wrth ofalu am ein hamgylchedd naturiol.

Combatting Rural Crime
Brwydro yn erbyn troseddau gwledig - Gorffennaf 2018

Mae'r NFU ac NFU Cymru wedi ymrwymo i sicrhau nad yw ffermwyr yn cael eu gweld fel 'targed meddal' i droseddwyr. Efallai ei bod yn ymddangos mai mannau gwledig tawel yw’r lle olaf i ddod o hyd i weithgarwch troseddol, ond mae cymunedau ffermio yn aml yn destun amrywiaeth o droseddau difrifol.

Ffermio: Creu Cymru unedig
Ffermio: Creu Cymru unedig- Mai 2017

Mae’r adroddiad hwn yn amlygu’r rôl sylweddol y mae amaethyddiaeth yn ei chwarae i les economaidd, amgylcheddol, diwylliannol a chymdeithasol Cymru. Mae’n cynnwys straeon ffermwyr o bob rhan o Gymru sy’n dangos bod y diwydiant amaethyddol yn bodloni pob un o’r nodau llesiant yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Llywodraeth Cymru.

Commons Land Report Welsh
Blaenoriaethau polisi ar gyfer tir comin

Mae bron i 10% o dir amaethyddol Cymru yn dir comin cofrestredig, gan ddarparu tir pori gwerthfawr i ddeiliaid hawliau – busnesau fferm sy’n hanfodol i’r economi wledig, yn enwedig yn ardaloedd ucheldir Cymru. Yn cael ei reoli gan deuluoedd ffermio dros ganrifoedd, mae tir comin hefyd yn bwysig i’r gymdeithas ehangach ar gyfer y gwasanaethau ecosystem a’r buddion llesiant y mae’n ei ddarparu ac mae’n nodwedd allweddol o’n treftadaeth ddiwylliannol, ein hiaith a’n traddodiadau.


Gofynnwch gwestiwn i ni am y dudalen hon

Unwaith y byddwch wedi cyflwyno’ch ymholiad bydd NFU Cymru yn cysylltu â chi ac, os yw’n briodol, bydd eich cwestiwn yn cael ei drosglwyddo i un o’n timau polisi.

You have 0 characters remaining.

By completing the form with your details on this page, you are agreeing to have this information sent to the NFU for the purposes of contacting you regarding your enquiry. Please take time to read the NFU’s Privacy Policy if you require further information.

This site is protected by reCAPTCHA and the Google Privacy Policy and Terms of Service apply.