Cyfarfod sir NFU Cymru Canolbarth Gwynedd

17 Tachwedd 2026, 19:30 – 21:30

Tŷ Newydd, Sarn Meyllteyrn, Pwllheli, LL53 8DY

Add to calendar

Mae NFU Cymru Canolbarth Gwynedd yn falch o wahodd aelodau a ffrindiau'r undeb i gyfarfod sir arbennig gyda Paul Williams, yn ei annerchiad cyntaf i’r cyfarfod sir ers ei ethol yn Ddirprwy Lywydd NFU Cymru

Dewch i gwrdd â Paul a chlywed am ei gefndir yn ffermio yng Nghae Haidd, Nebo, a'r profiadau sydd wedi llunio ei daith o fewn y diwydiant amaethyddol ac o fewn yr undeb. 

Ers ei ethol, mae wedi bod yn gyfnod hynod brysur i amaethyddiaeth yng Nghymru, gyda datblygiadau polisi sylweddol a nifer o heriau allweddol yn effeithio ar fusnesau fferm.

Mewn cyfnod o newid mawr i amaethyddiaeth, dyma gyfle gwerthfawr i glywed yn uniongyrchol gan un o dîm Llywyddol NFU Cymru am y materion sy'n siapio dyfodol y diwydiant. O'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy a TB, i'r gwaith dylanwadu a lobïo sy'n digwydd ym Mae Caerdydd, San Steffan ac ym Mrwsel, bydd Paul yn cynnig mewnwelediad unigryw i'r trafodaethau sy'n digwydd y tu ôl i'r llenni ac i'r blaenoriaethau sydd wrth wraidd gwaith yr undeb dros y misoedd nesaf.

Mae hwn yn gyfle gwych i gael y wybodaeth ddiweddaraf, gofyn cwestiynau a chyfrannu at y drafodaeth ar adeg hollbwysig i ddyfodol amaethyddiaeth yng Nghymru.

Bydd prydau basged ar gael i'w prynu am bris rhesymol yn ystod y noson.

Mae croeso cynnes i bob aelod a darpar aelod. Dewch draw i ymuno â ni am noson ddifyr.

Event details
Start Date
17 Tachwedd 2026 at 19:30
End Date
17 Tachwedd 2026 at 21:30
Location

Tŷ Newydd, Sarn Meyllteyrn, Pwllheli, LL53 8DY


Gofynnwch gwestiwn i ni am y dudalen hon

Unwaith y byddwch wedi cyflwyno’ch ymholiad bydd NFU Cymru yn cysylltu â chi ac, os yw’n briodol, bydd eich cwestiwn yn cael ei drosglwyddo i un o’n timau polisi.

You have 0 characters remaining.

By completing the form with your details on this page, you are agreeing to have this information sent to the NFU for the purposes of contacting you regarding your enquiry. Please take time to read the NFU’s Privacy Notice if you require further information.