Dewch i gwrdd â Paul a chlywed am ei gefndir yn ffermio yng Nghae Haidd, Nebo, a'r profiadau sydd wedi llunio ei daith o fewn y diwydiant amaethyddol ac o fewn yr undeb.
Ers ei ethol, mae wedi bod yn gyfnod hynod brysur i amaethyddiaeth yng Nghymru, gyda datblygiadau polisi sylweddol a nifer o heriau allweddol yn effeithio ar fusnesau fferm.
Mewn cyfnod o newid mawr i amaethyddiaeth, dyma gyfle gwerthfawr i glywed yn uniongyrchol gan un o dîm Llywyddol NFU Cymru am y materion sy'n siapio dyfodol y diwydiant. O'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy a TB, i'r gwaith dylanwadu a lobïo sy'n digwydd ym Mae Caerdydd, San Steffan ac ym Mrwsel, bydd Paul yn cynnig mewnwelediad unigryw i'r trafodaethau sy'n digwydd y tu ôl i'r llenni ac i'r blaenoriaethau sydd wrth wraidd gwaith yr undeb dros y misoedd nesaf.
Mae hwn yn gyfle gwych i gael y wybodaeth ddiweddaraf, gofyn cwestiynau a chyfrannu at y drafodaeth ar adeg hollbwysig i ddyfodol amaethyddiaeth yng Nghymru.
Bydd prydau basged ar gael i'w prynu am bris rhesymol yn ystod y noson.
Mae croeso cynnes i bob aelod a darpar aelod. Dewch draw i ymuno â ni am noson ddifyr.