Bydd y cyfarfod hwn yn rhoi cyfle i aelodau ddysgu am y camau sydd angen eu cwblhau, boed yn ymarferol, ar bapur neu ar eich cyfrif RPW, er mwyn sicrhau gweddill eich taliad Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS).
Bydd cyflwyniad gan Ilan Jones, Ymgynghorydd Sir NFU Cymru, yn amlinellu'r Gweithredoedd Cyffredinol (Universal Actions) y mae'n rhaid eu cwblhau ar eich dashboard RPW, ynghyd â'r dogfennau a'r cofnodion fydd angen eu cadw fel rhan o'ch ffeil SFS.
Byddwn hefyd yn egluro'r dyddiadau cau allweddol ar gyfer cwblhau'r gweithredoedd hyn ac yn ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gan aelodau. Os ydych yn cymryd rhan yn y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, rydym yn eich annog yn gryf i fynychu, gan y bydd y gwybodaeth yn eich helpu i ddeall y gofynion a'r amserlenni sydd angen eu bodloni er mwyn derbyn gweddill y taliad.
Os cliciwch ar y ddolen isod ar ein gwefan, fe gewch fynediad i nifer o dempledi defnyddiol ar gyfer eich ffeil SFS:
https://www.nfu-cymru.org.uk/en/news-and-information/sfs-downloadable-documents/
Ar ddiwedd y cyfarfod, byddwn yn cynnal ein AGM, gan ystyried yr ydym ar hyn o bryd yng nghanol ein tymor o ddwy flynedd fel cynrychiolwyr y sir.
Agenda
1. Croeso, Cyhoeddiadau ac Ymddiheuriadau
2. Diweddariad ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS)
3. Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol – AGM
4. Unrhyw Fater Arall