Mae dogfen yr undeb Ffermio Cymru: Tyfu Ymlaen yn cynnwys cyfres o ofynion beiddgar ac uchelgeisiol ar gyfer pob ymgeisydd a phlaid a fydd yn sefyll yn Etholiad y Senedd y flwyddyn nesaf.
Lansio’r ddogfen yn y Senedd oedd canolbwynt digwyddiad Dathlu Bwyd a Ffermio Cymru NFU Cymru, a noddwyd yn garedig gan Jane Dodds AS.
Roedd y digwyddiad yn un o nifer o weithgareddau a gynhaliwyd gan yr undeb ledled Cymru fel rhan o ddathliadau blynyddol pedwerydd Wythnos Ffermio Cymru.
Ein flaenoriaethau
"Mae’r sgiliau a’r wybodaeth sydd wedi’u meithrin dros genedlaethau ar ein ffermydd teuluol gwledig yn darparu’r cynhwysion crai cynaliadwy sy’n arwain llwyddiant diwydiant bwyd a diod Cymru, sector sydd â throsiant o dros £9.3 biliwn."
Aled Jones, Llywydd NFU Cymru
Mae cynhyrchu bwyd wrth wraidd maniffesto newydd NFU Cymru: Ffermio Cymru: Tyfu Ymlaen, gyda gofynion allweddol ynghylch strategaeth fwyd gynhwysfawr o’r fferm i’r fforc, polisi yn y dyfodol sy’n sail i gynhyrchu bwyd ac ymrwymiadau i gynyddu’r bwyd o Gymru sy’n cael ei brynu yn y sector cyhoeddus. Mae’r ddogfen hefyd yn cynnwys cyfres ehangach o flaenoriaethau mewn meysydd fel TB mewn gwartheg, ansawdd dŵr a chyllideb amlflwydd wedi’i chlustnodi ar gyfer ffermio yng Nghymru.
Ein maniffesto
Wrth siarad ag Aelodau cyfredol o’r Senedd, ffermwyr a rhanddeiliaid sydd wedi dod at ei gilydd yn y Senedd, dywedodd Llywydd NFU Cymru, Aled Jones: “Mae lansio maniffesto NFU Cymru heddiw yn rhoi’r undeb ar flaen y gad o ran hyrwyddo blaenoriaethau allweddol amaethyddiaeth Cymru cyn yr etholiad nesaf. Er nad yw Etholiad y Senedd tan fis Mai y flwyddyn nesaf, mae hwn yn gyfnod hollbwysig i ffermio yng Nghymru ac o’n safbwynt ni nid oes eiliad i’w wastraffu; rydym yn cael ein hysgogi drwy weithio ochr yn ochr â chynrychiolwyr gwleidyddol o bob plaid i helpu’r diwydiant i gyflawni ei uchelgeisiau a gwireddu ei botensial yn y dyfodol ymhellach.
“Bydd penderfyniadau ar amaethyddiaeth yn ystod y Senedd nesaf yn siapio dyfodol ffermio yng Nghymru. Rwy’n falch bod NFU Cymru yn parhau i roi llwyfan i Grŵp Datblygu’r Genhedlaeth Nesaf – criw o ffermwyr ifanc brwdfrydig o bob cwr o Gymru a fydd yn helpu i ffurfio blaenoriaethau a dyheadau polisi’r undeb. Yr unigolion gweithgar hyn – a’u cymheiriaid o bob cwr o Gymru – fydd yn sicrhau ein bod yn parhau i arwain y byd o ran cynhyrchu bwyd cynaliadwy, ynghyd â chyflawni ar gyfer yr amgylchedd, yr economi, ein diwylliant a’n hiaith, gan fynd i’r afael ag effeithiau newid yn yr hinsawdd ar yr un pryd. Dylai helpu’r ffermwyr ymroddedig yma i gyflawni’r manteision cymdeithasol niferus hyn fod yn flaenoriaeth i bob un ohonom.
“Mae amaethyddiaeth yng Nghymru yn ddiwydiant sy’n sicrhau twf a manteision nid yn unig i’r rhai sy’n byw mewn ardaloedd gwledig, ond i Gymru gyfan. Mae’r sgiliau a’r wybodaeth sydd wedi’u meithrin dros genedlaethau ar ein ffermydd teuluol gwledig yn darparu’r cynhwysion crai cynaliadwy sy’n arwain llwyddiant diwydiant bwyd a diod Cymru, sector sydd â throsiant o dros £9.3 biliwn. Mae diwydiant bwyd a diod Cymru yn cyflogi cyfanswm o 228,500 o bobl – tua 17% o weithlu Cymru. Mae’r rhai y mae eu hincwm a’u gwariant yn dibynnu ar ddiwydiant amaethyddol ffyniannus yng Nghymru nid yn unig yn byw ar ffermydd yng Nghymru, ond maent yn byw ac yn gweithio mewn pentrefi, trefi a dinasoedd ledled y wlad.
“O 2026 ymlaen, bydd y Senedd yn cael ei hehangu i fod yn ddeddfwrfa o 96 sedd, gydag Aelodau o’r Senedd yn cael eu hethol ar sail gyfrannol yn unig. Efallai mai ychydig o ffermydd sydd o fewn rhai o’r 16 o etholaethau newydd yn y Senedd, ond er hynny, bydd pob etholaeth yn gartref i lawer o drigolion sy’n gweithio yng nghadwyn gyflenwi bwyd a ffermio ffyniannus Cymru. Yr hyn sydd y tu hwnt i amheuaeth yw y bydd y mwyafrif llethol o’r etholwyr hynny’n dibynnu ar ffermwyr Cymru am y bwyd y maent yn ei fwyta. Rhwng nawr a'r etholiad byddwn yn ymgysylltu ag ymgeiswyr seneddol ar draws pob plaid wleidyddol a, thu hwnt i hynny, gyda'r rhai sy'n ddigon ffodus i sicrhau seddi ym Mae Caerdydd, i bwysleisio'r neges bwysig hon."