Aelodau Grŵp Cenhedlaeth Nesaf NFU Cymru yn lansio adroddiad newydd yn y Senedd

20 Mehefin 2023

Grwp Cenhedlaeth Nesaf

Mae NFU Cymru wedi mynd â’i weithgaredd lobïo i’r Senedd drwy lansio adroddiad newydd sy’n amlygu sut all polisïau Llywodraeth Cymru sicrhau dyfodol disglair i ffermwyr y genhedlaeth nesaf yng Nghymru.

Mae NFU Cymru wedi mynd â’i weithgaredd lobïo i’r Senedd drwy lansio adroddiad newydd sy’n amlygu sut all polisïau Llywodraeth Cymru sicrhau dyfodol disglair i ffermwyr y genhedlaeth nesaf yng Nghymru.

Yn y digwyddiad i Ddathlu Bwyd a Ffermio Cymreig ym Mae Caerdydd ddydd Mawrth 20fed Mehefin fe wnaeth yr undeb ffermio Cymreig NFU Cymru lansio ei adroddiad Fframio’r dyfodol ar gyfer y genhedlaeth nesaf gyda ASau yn y Senedd. Noddwyd y lansiad drwy garedigrwydd Sam Kurtz AS ac roedd hwn ymysg nifer o ddigwyddiadau y mae NFU Cymru wedi’u cydlynu fel rhan o’r ymgyrch cyntaf erioed i ddathlu Wythnos Bwyd a Ffermio Cymreig.

Mae’r adroddiad Fframio’r dyfodol ar gyfer y genhedlaeth nesaf yn dathlu’r cyfraniad a wna ffermwyr ifanc yng Nghymru ac mae ynddo argymhellion pwysig sy’n datgan sut all Llywodraeth Cymru gefnogi ffermwyr y genhedlaeth nesaf yng Nghymru. Ymysg yr argymhellion y mae:

  • Elfennau penodol yng Nghynllun Ffermio Cynaliadwy y dyfodol i gefnogi ffermwyr actif, pontio llyfn a defnyddio grantiau cyfalaf
  • Pwyso a mesur cyfleoedd i’w gwneud hi’n haws i newydd-ddyfodiaid a ffermwyr ifanc gael gafael ar gyllid
  • Rhoi blaenoriaeth i gaffael cyhoeddus a bwyd a gynhyrchir gartref
  • Awdurdodau lleol yn cydnabod pwysigrwydd y rhwydwaith ffermydd cyngor
  • Sicrhau bod ffermio Cymreig yn cael ei bortreadu’n gywir yng nghwricwlwm yr ysgol a bod plant yn cael y cyfle i gael profiad o lle mae eu bwyd yn dod.

Er mwyn tynnu sylw at rai o’r materion sy’n effeithio ar ffermwyr ifanc Cymru, mae’r adroddiad newydd yn cynnwys proffiliau astudiaethau achos o bedwar aelod o Grŵp Cenhedlaeth Nesaf NFU Cymru, sydd, bob un ohonynt, ar hyn o bryd wrthi’n creu dyfodol iddynt eu hunain yn y diwydiant amaeth. Mae’r sylw ar y ffermwr llaeth defaid Bryn Perry (Sir Benfro), y ffermwr gwartheg biff a defaid Jessica Williams (Meirionnydd), y ffermwr defaid cenhedlaeth gyntaf Ernie Richards (Aberhonddu a Maesyfed) a’r ffermwr llaeth Susie Mottershead (Clwyd) yn dangos fel mae pob un o’r ffermwyr wedi datblygu yn y diwydiant; mae hefyd yn bwrw goleuni ar yr heriau maent wedi’u hwynebu.

Yn ystod y digwyddiad lansio, cododd Susie Mottershead hefyd ar ei thraed yn y Senedd, ochr yn ochr â’i chyd-aelodau ar Grŵp Cenhedlaeth Nesaf NFU Cymru, Jâms Morgan (Ceredigion) a Carys Jones (Sir Fynwy), i ddweud wrth Aelodau’r Senedd am eu hangerdd i ffermio a’u gobeithion ynglŷn â dyfodol y diwydiant.

Jâms Morgan

Ceredigion

I am 32-years-old and have grown up on a dairy and sheep farm just north of Aberystwyth. After studying agriculture in The University of Reading, I returned home to run our farm in partnership with my parents.

I am the ninth generation of my family to farm our land. After University I spent a brief period working and traveling through New Zealand gaining experiences on large dairy herds. I’m passionate about sustainable farming practices in particular within the dairy industry and tackling climate change. Outside the farm I spend my time kayaking having played canoe polo for the Welsh under 21 team.  

My name is Susie Mottershead and alongside my husband we raise three small children and work our third generation dairy farm on the Welsh border. We currently milk 310 pedigree Holstein animals and farm 550 acres of land. 

I joined the dairy farm business during lockdown 2020 following a career break to have children. Prior to this I had worked in sales and account management roles in FMCG.

After joining the partnership, I took on full time calf rearing and all care of young stock. It is possibly one area of dairy farms which I have always believed is not given the focus and dedication it warrants. Consequently, I placed calf care firmly at the heart of our farm business. 

My data driven approach to calf care has enabled us to drive significant improvements not only to calf health but also to the efficiency of our calf rearing practices. Being relatively new to farming I have been lucky enough to be aided by a fantastic team of vets, and industry contacts who have supported me on my steep learning curve. One of my biggest achievements to date was winning the silver award for dairy innovation at the British Farming Awards in October 2021.

Carys Jones

Monmouthshire

Carys attended Harper Adams University, obtaining a BSc (Hons) degree in Rural Enterprise & Land Management. Following five years working with Savills (UK) Ltd as a Rural Chartered Surveyor, she joined her family dairy farming business, Larchwood Holsteins, on a full-time basis in March 2019 and was made a partner in 2021.

Carys started investing in her own pedigree animals at the age of 17, and has a real passion for genetics, showing and the promotion of the Holstein breed.

She completed the RABDF Entrepreneurs in Dairying Course in 2020 and was awarded the RWAS Oxford Farming Conference Scholarship in 2019. She has been an active member of both Gwent YFC and South Wales Holstein Young Breeders Club, competing in National stockjudging, public speaking and drama competitions.

Carys is a keen advocate of UK agriculture, using social media platforms to engage and educate consumers about the story behind their food.

Roedd digwyddiad Dathlu Bwyd a Ffermio Cymreig NFU Cymru yn cyd-daro â’r ddadl derfynol ar Fil Amaethyddiaeth (Cymru) yn siambr y Senedd. Ar ôl ei phasio, bydd Deddf Amaethyddiaeth (Cymru) yn sefydlu’r fframwaith ar gyfer y polisi amaeth i’r dyfodol a bydd yn diffinio ffermio yng Nghymru am genhedlaeth neu fwy.

Meddai Llywydd NFU Cymru Aled Jones: “Mae’r ddadl heddiw ar Fil Amaeth (Cymru) yn ein hatgoffa unwaith eto fod hwn yn ddarn o ddeddfwriaeth holl bwysig a fydd yn diffinio ffermio yng Nghymru am ddegawdau lawer. Un o’r prif resymau pam ein bod wedi lobïo mor galed gydol y broses ddeddfwriaethol yw oherwydd ei bod yn holl bwysig bod Deddf Amaethyddiaeth (Cymru) yn cefnogi’n effeithiol ffermwyr actif y genhedlaeth nesaf yng Nghymru.

“Bu’n bleser gweithio ochr yn ochr ag aelodau Grŵp Cenhedlaeth Nesaf NFU Cymru i gynhyrchu a lansio ein hadroddiad Fframio’r dyfodol ar gyfer y genhedlaeth nesaf. Mae’r ddogfen hon yn crisialu’n berffaith angerdd a brwdfrydedd ffermwyr ifanc yng Nghymru gan gynrychioli ar yr un pryd nifer o’r rhwystrau sy’n atal doniau ifanc rhag datblygu yn y diwydiant. Gofynnwn i Aelodau’r Senedd ystyried a mabwysiadu’r argymhellion yn yr adroddiad hwn a gweithio gyda’r diwydiant i helpu i weithredu tirlun polisi sy’n caniatáu i sector amaethyddiaeth Cymru ffynnu am genedlaethau lawer.

“Mae ein ffermwyr yn debygol o wynebu cryn heriau i’r dyfodol, yn anad dim, bwydo poblogaeth sy’n tyfu yn erbyn cefndir o hinsawdd sy’n newid. Fodd bynnag, mae eu brwdfrydedd dros ffermio Cymreig yn gyffrous ac maent yn unedig yn eu penderfyniad i ddal i gynhyrchu bwyd fforddiadwy, o ansawdd uchel, y gellir ei olrhain a sicrhau manteision economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol ehangach i holl bobl Cymru, gan gyflawni ar yr un pryd ein huchelgais i fod yn sero net erbyn 2040.”


Gofynnwch gwestiwn i ni am y dudalen hon

Unwaith y byddwch wedi cyflwyno’ch ymholiad bydd NFU Cymru yn cysylltu â chi ac, os yw’n briodol, bydd eich cwestiwn yn cael ei drosglwyddo i un o’n timau polisi.

You have 0 characters remaining.

By completing the form with your details on this page, you are agreeing to have this information sent to the NFU for the purposes of contacting you regarding your enquiry. Please take time to read the NFU’s Privacy Policy if you require further information.

This site is protected by reCAPTCHA and the Google Privacy Policy and Terms of Service apply.