Aelodaeth

Mae aelodaeth NFU Cymru yn golygu bod gennych chi lais ar y rheng wleidyddol uchaf, cefnogaeth leol, cyngor ac arweiniad proffesiynol, disgowntiau i arbed arian, a chyfathrebiadau sydd yn eich cadw'n wybodus. Gyda'n gilydd mae gennym ni gyfle i sicrhau bod dyfodol amaeth yn byrlymu â chyfleoedd, a bod cynhyrchu bwyd yn derbyn y gydnabyddiaeth haeddiannol. 

NFU Cymru. Rydym ni yma ar gyfer pob un ohonoch chi.

Pa aelodaeth sydd i chi?

I ymuno ag NFU Cymru ffoniwch 0370 428 1401 neu cliciwch ar y botwm ‘Ymuno ag NFU Cymru’ a chwblhewch y ffurflen galw’n ôl.

Mae aelodaeth NFU Cymru yn golygu…

Bod eich llais yn cael ei glywed
Cefnogaeth bersonol lleol
Cyngor ac arweiniad
Gwobrau aelodaeth sylweddol
Ymdeimlad o berthyn
Eich bod yn cadw’n wybodus

Gyda'n gilydd rydym yn cyflawni ar faterion mawrion

O symbylu cefnogaeth dros filiwn o bobl trwy gyfrwng ein deiseb safonau bwyd, i arbed ffermwyr £450 am bob 1,000 litr o danwydd a brynir ar gyfer y fferm, rydym bob amser wedi canolbwyntio ar gyflawni canlyniadau cadarn. Gyda'n gilydd mae gennym gyfle i sicrhau bod dyfodol amaeth yn byrlymu â chyfleoedd a bod cynhyrchu bwyd yn derbyn y gydnabyddiaeth haeddiannol. Gwyliwch y ffilmiau isod i ddarganfod mwy am ein gwaith.

Ymunwch â ni

Neu ffoniwch ein tim aelodaeth ar 0370 428 1401 i siarad ag un o’n cynghorwyr gwasanaeth cwsmeriaid cyfeillgar.