Cynhadledd sirol NFU Cymru Canolbarth Gwynedd yn tynnu sylw at rôl ymchwil ac arloesi yn nyfodol ffermio

06 Chwefror 2026

Yn y llun o’r chwith i’r dde: Llywydd NFU Cymru Aled Jones, yr Athro Prysor Williams a Chadeirydd Canol-Gwynedd NFU Cymru Trefor Parry.

Yn y llun o’r chwith i’r dde: Llywydd NFU Cymru Aled Jones, yr Athro Prysor Williams a Chadeirydd Canolbarth Gwynedd NFU Cymru Trefor Parry.

Daeth aelodau NFU Cymru yng Nghanolbarth Gwynedd ynghyd yng Ngwinllan Pant Du, Penygroes, ar y 29ain o Ionawr ar gyfer cynhadledd flynyddol y sir, gyda ffocws clir ar sut y gall gwyddoniaeth, ymchwil ac arloesi gefnogi dyfodol amaethyddiaeth Cymru. 

Cafwyd cyflwyniad gan yr Athro Prysor Williams, ffermwr a darlithydd ym Mhrifysgol Bangor, a ddarparodd fewnwelediad manwl ac ymarferol i’r pwysau amgylcheddol a masnachol sy’n wynebu’r diwydiant, ynghyd â’r cyfleoedd sy’n dod i’r amlwg drwy ymchwil a thechnoleg.

Gan dynnu ar ei brofiad fel rheolwr fferm yn Fferm Ymchwil Henfaes, pwysleisiodd yr Athro Williams fod yn rhaid i ffermydd ymchwil arwain drwy esiampl, gan ddangos sut y gall ffermio masnachol eistedd ochr yn ochr â rheoli cynefinoedd a darparu buddion amgylcheddol.

Effeithlonrwydd carbon ac ariannol

Amlinellodd ystod eang o brosiectau sydd ar y gweill yn Henfaes ar hyn o bryd, gan gynnwys gwaith ar garbon pridd, gwndwn rhywogaethau cymysg (mixed species leys), gwahanu slyri, allyriadau amonia mewn systemau defaid ac ymchwil ryngwladol sy’n archwilio cynhyrchu india corn o dan blastig a’r effaith y caiff ar ficroblastigau mewn pridd.

Pwysleisiodd yr Athro Williams hefyd fod effeithlonrwydd carbon ac effeithlonrwydd ariannol yn gorfod mynd law yn llaw, a bod ymchwil annibynnol a chadarn yn hanfodol i gefnogi ffermwyr a darparu’r dystiolaeth sydd ei hangen i lunio polisïau a marchnadoedd y dyfodol.

Cafwyd hefyd anerchiad gan Lywydd NFU Cymru, Aled Jones, a fyfyriodd ar wyth mlynedd o wasanaeth a datblygiad y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, gan bwysleisio’r angen parhaus am ymgysylltiad gwleidyddol cryf i sicrhau dyfodol teg i ffermydd teuluol.

Wrth siarad ar ôl y gynhadledd, dywedodd Cadeirydd Sir Canolbarth Gwynedd NFU Cymru, Trefor Parry: “Cyflwynodd yr Athro Williams gyflwyniad hynod ddifyr ac addysgiadol, gan ddangos yn glir sut y gall ymchwil a ffermio ymarferol weithio gyda’i gilydd i gefnogi dyfodol gwydn a chynhyrchiol i amaethyddiaeth Cymru. Roedd hefyd yn fraint i’r aelodau glywed gan Aled Jones wrth iddo agosáu at ddiwedd ei dymor fel Llywydd, ac i’w ddiolch am ei arweinyddiaeth a’i ymrwymiad i ffermwyr ledled Cymru.”

Daeth y gynhadledd i ben gyda’r aelodau’n myfyrio ar bwysigrwydd cydweithio, arloesi a thystiolaeth wyddonol gadarn wrth helpu ffermio Cymru ymateb i’r heriau a’r cyfleoedd sydd o’u blaenau.


Gofynnwch gwestiwn i ni am y dudalen hon

Unwaith y byddwch wedi cyflwyno’ch ymholiad bydd NFU Cymru yn cysylltu â chi ac, os yw’n briodol, bydd eich cwestiwn yn cael ei drosglwyddo i un o’n timau polisi.

You have 0 characters remaining.

By completing the form with your details on this page, you are agreeing to have this information sent to the NFU for the purposes of contacting you regarding your enquiry. Please take time to read the NFU’s Privacy Notice if you require further information.