Sarah Bradbury
Prif Weithredwr, Sefydliad Dosbarthu BwydMae Sarah yn dod â dros 25 mlynedd o brofiad unigryw yn y sectorau manwerthu a bwyd. Ar hyn o bryd, mae hi'n arwain IGD, sefydliad dylanwadol sydd wedi bod yn helpu i ysbrydoli ac uno'r diwydiant bwyd ers mwy na 120 mlynedd. Mae IGD yn fusnes sy’n darparu gwybodaeth strategol ac i’r dyfodol yn y maes, sy'n ail-fuddsoddi'r holl elw mewn mentrau effeithiol sydd o fudd i'r diwydiant a'r gymdeithas yn gyffredinol.
Trwy gydol ei gyrfa, mae Sarah wedi bod mewn swyddi masnachol a marchnata uwch, gan gynnwys ei rôl flaenorol fel Cyfarwyddwr Ansawdd Grŵp yn Tesco. Yno, roedd hi'n gyfrifol am oruchwylio’r gwaith o gyflenwi cynhyrchion diogel o ansawdd uchel, cynaliadwyedd, amaethyddiaeth a chydymffurfio â rheoliadau. Yn y rôl hon y datblygodd Sarah ei diddordeb mawr dros hybu newid ar y cyd, gan sicrhau bod y sectorau bwyd a nwyddau defnyddwyr yn rym o bwys, a gweithio i wella'r system fwyd ar gyfer y tymor hir.