Karen Betts OBE
Prif Weithredwr, Ffederasiwn Bwyd a DiodYmunodd Karen â FDF ym mis Rhagfyr 2021. Cyn hyn, hi oedd Prif Weithredwr Cymdeithas Wisgi'r Alban (SWA) am bedair blynedd, gan gynrychioli sector Wisgi'r Alban yn y DU a marchnadoedd allforio ledled y byd.
Cyn ymuno â'r SWA, roedd Karen yn ddiplomydd yn y Swyddfa Dramor a'r Gymanwlad am 16 mlynedd, lle bu'n gwneud amryw o swyddi yn Llundain a thramor, gan gynnwys fel Llysgennad Prydain i Foroco a Llysgennad di-breswyl i Mauritania, ac Uwch Swyddog i Lysgenhadaeth Prydain yn Washington. Cafodd swydd hefyd gyda Chynrychiolaeth Barhaol y DU i'r UE ym Mrwsel a Llysgenhadaeth Prydain yn Baghdad.
Yn Llundain, bu’n gwasanaethu yn Swyddfa'r Cabinet ac ar staff y Cydbwyllgor Cudd-wybodaeth, yn ogystal ag mewn sawl rôl yn y Swyddfa Dramor. Cyn ymuno â'r llywodraeth, roedd Karen yn gyfreithiwr yn Clifford Chance, yn gweithio yn Llundain a Hong Kong. Bud Karen yn Gynghorydd i Fwrdd Masnach Llywodraeth y DU rhwng 2019 a 2024 ac yn Ymddiriedolwr FareShare. Derbyniodd OBE yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines yn 2022 am wasanaethau i fasnach ryngwladol.