Huw Irranca-Davies MS

Huw Irranca-Davies MS

Cafodd Huw Irranca-Davies ei eni a'i fagu yng Nghre-gŵyr, lle’r oedd dur a diwydiant trwm ac amaethyddiaeth ar y pryd, gan gyfuno ardaloedd gwledig, trefol a diwydiannol, ac mae hyn wedi dylanwadu ar ei agwedd tuag at wleidyddiaeth a pholisi ar hyd ei oes.

Gweithiodd Huw am nifer o flynyddoedd ym maes rheoli hamdden yn y sector cyhoeddus a phreifat ac fel Uwch Ddarlithydd mewn Addysg Uwch cyn mynd i’r byd gwleidyddol.

Ym mis Chwefror 2002 cafodd ei ethol yn AS Llafur dros Ogwr. Cafodd ei ethol maes o law i'r Cynulliad (Senedd Cymru bellach) yn 2016 yn cynrychioli Ogwr.
Penodwyd Huw yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a Materion Gwledig ym mis Mawrth

2024 ac yn ddiweddarach fe'i penodwyd yn Ddirprwy Brif Weinidog ym mis Medi 2024, yn ogystal â chadw cyfrifoldeb am faterion Newid Hinsawdd a Materion Gwledig.