Dr Peter Noy

Cyfarwyddwr, Sefydliad Systemau Bwyd, Prifysgol Nottingham

Mae Pete yn darparu cyfarwyddyd ac arweinyddiaeth ar gyfer y Sefydliad Systemau Bwyd, sefydliad ymchwil sy'n canolbwyntio ar ddatblygu partneriaethau a gweithio gyda rhanddeiliaid i sicrhau system fwyd well yn y dyfodol. Mae’r Sefydliad yn canolbwyntio ar ddatblygu gwybodaeth ymchwil ac arloesedd a all hybui newid ar draws rhanddeiliaid y system fwyd i wneud y bwyd rydyn ni'n ei fwyta yn fwy cynaliadwy, teg a maethlon. 

Mae Pete wedi bod mewn rolau arwain ym mentrau Bwyd Amaeth blaenllaw Prifysgol Nottingham ers 2018, yn gyntaf y Future Food Beacon (2018-2023) ac yna'r Sefydliad Systemau Bwyd (2023-presennol). Mae'r mentrau hyn wedi sbarduno gwybodaeth ymchwil sylfaenol ac ymarferol mewn cynhyrchiant amaethyddol, o fabwysiadu technoleg ar y fferm i reoli pridd i ddatblygu systemau cnydau a da byw gwydn i ddatblygu technolegau amaethyddol yn y dyfodol.

Yn ei rôl bresennol mae’n goruchwylio pedair canolfan ymchwil ryngddisgyblaethol sy'n integreiddio mwy na 250 o staff academaidd ar draws mwy nag 20 o ysgolion academaidd ym Mhrifysgol Nottingham.