Arddangosfa welingtons yn anelu cic at gynigion polisi Cynllun Ffermio Cynaliadwy Llywodraeth Cymru

Wellies tu allan i'r Senedd

Mae aelodau NFU Cymru wedi creu arddangosfa symbolaidd drwy osod 5,500 o barau o welingtons ar risiau’r Senedd i gynrychioli’r swyddi y rhagwelir y byddant yn cael eu colli drwy gynigion Cynllun Ffermio Cynaliadwy Llywodraeth Cymru.

Cafodd yr arddangosfa ei rhoi at ei gilydd gan ffermwyr, yn y Senedd ym Mae Caerdydd ddydd Mercher 6 Mawrth, sef y noson cyn y byddai ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, ‘Cadw Ffermwyr i Ffermio’, yn dirwyn i ben. Yn seiliedig ar y ffigurau yn asesiad effaith Llywodraeth Cymru, mae’r 5,500 o welingtons y tu allan i adeilad y Senedd yn cynrychioli’r swyddi amaethyddol y rhagwelir y byddant yn cael eu colli petai pawb yn dilyn y cynllun.

Daeth ffermwyr o bob cwr o'r wlad at ei gilydd i gasglu 5,500 o barau o welingtons i ddod â’r arddangosfa yn fyw. Bydd yr esgidiau sy’n rhan o’r arddangosfa yn cael eu rhoi i elusennau yn Affrica.

Dywedodd Paul Williams, aelod o NFU Cymru a threfnydd yr arddangosfa: “Mae gweld 5,500 o barau o welingtons wedi’u gosod ar risiau’r Senedd yn bortread taer o’r swyddi a fyddai’n cael eu colli yn y diwydiant amaeth yng Nghymru petai’r cynigion hyn yn mynd rhagddynt fel y maent ar hyn o bryd.

“Yr hyn sy’n gwneud ein diwydiant mor arbennig yw’r bobl a’r teuluoedd sy’n ei ystyried yn fwy na dim ond gwaith. Mae gennym welingtons o bob maint a lliw yn cael eu harddangos, sy’n cynrychioli’r rhai sydd wedi bod yn ffermio ers degawdau, eu teuluoedd sydd wedi ffermio ein tir ers cenedlaethau, a’r rhai bach sydd ag uchelgeisiau mawr am ddyfodol yn ein diwydiant pan fyddant yn hŷn. Rhaid i’r Aelodau o’r Senedd, sydd wedi edrych allan ar yr arddangosfa o’r Senedd heddiw, ddeall beth sydd yn y fantol, ac ymrwymo i sicrhau nad yw cynigion terfynol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn niweidio busnesau a chymunedau Cymru.”

Dywedodd y cyd-drefnydd Llŷr Jones: “Mae’r gefnogaeth rydyn ni wedi’i chael gan gymuned amaethyddol ehangach Cymru i gasglu’r welingtons hyn wedi bod yn anhygoel. Rydyn ni’n fawr ein dyled i’r cymorth rydyn ni wedi’i gael gan fusnesau ar draws y gadwyn gyflenwi sydd wedi ein helpu ni i wireddu’r syniad hwn. Mae’r prosiect hwn yn enghraifft o’r undod sy’n bodoli yn ein diwydiant, er gwaethaf yr heriau a’r ansicrwydd parhaus sy’n effeithio ar bawb yng nghefn gwlad Cymru. Mae ffermwyr Cymru yn hynod falch o’r rôl y maent yn ei chwarae yn y wlad hon. Mae angen i Lywodraeth Cymru gefnogi ein huchelgeisiau a helpu’r diwydiant gwych hwn i barhau i ffynnu.”

Mae NFU Cymru wedi rhoi rhybudd ers tro byd am effeithiau agweddau ar y cynigion sydd wedi’u cynnwys yn amlinelliad y Cynllun Ffermio Cynaliadwy – yn enwedig y gofynion ar ffermwyr i wella cynefinoedd a gorchuddio 10% o’u tir â choed – ar gynhyrchiant a hyfywedd y sector.

Dywedodd Aled Jones, Llywydd NFU Cymru: “Mae dod â’r prosiect trawiadol hwn at ei gilydd wedi bod yn llwyddiant ysgubol i’n haelodau. Mae’r hyn y maent wedi’i gyflawni wedi bod yn ffordd effeithiol ac emosiynol o’n hatgoffa pam y mae NFU Cymru wedi parhau i lobïo mor galed yn erbyn cynigion ymgynghori gwahanol ers cyhyd. Yn syml iawn, allwn ni ddim gweld y llywodraeth yn bwrw ymlaen gyda chynllun a fyddai’n peryglu 5,500 o swyddi amaethyddol yng Nghymru, heb sôn am yr effaith ddilynol y byddai hynny’n ei chael ar ragor o swyddi yn y gadwyn cyflenwi bwyd – nid yw effaith hyn wedi’i hasesu – ac ar ein cymunedau gwledig.

“Yn ystod cyfnod ymgynghori’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, mae ffermwyr ledled Cymru wedi sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed mewn amrywiaeth o ffyrdd. Rhaid i Lywodraeth Cymru ddangos ei bod wedi gwrando, a hynny drwy ailwampio ei chynllun yn sylweddol er mwyn osgoi’r senario dychrynllyd a amlygwyd yn ei gwaith modelu ei hun.”


Gofynnwch gwestiwn i ni am y dudalen hon

Unwaith y byddwch wedi cyflwyno’ch ymholiad bydd NFU Cymru yn cysylltu â chi ac, os yw’n briodol, bydd eich cwestiwn yn cael ei drosglwyddo i un o’n timau polisi.

You have 0 characters remaining.

By completing the form with your details on this page, you are agreeing to have this information sent to the NFU for the purposes of contacting you regarding your enquiry. Please take time to read the NFU’s Privacy Policy if you require further information.

This site is protected by reCAPTCHA and the Google Privacy Policy and Terms of Service apply.