NFU Cymru yn defnyddio arddangosfa yn y Sioe Frenhinol i dynnu sylw at faich trwm rheoleiddio sy’n pwyso ar ffermwyr Cymru

19 Gorffennaf 2026
NFU Cymru President and Deputy at the table of regulation

Abi Reader, Llywydd NFU Cymru, a’r Dirprwy Lywydd Paul Williams wrth y bwrdd cegin sy’n dangos maint y rheolau a’r rheoliadau

Mae pwysigrwydd yr adolygiad o’r baich rheoleiddio sy’n pwyso ar ffermwyr Cymru wedi cael ei danlinellu ymhellach gan NFU Cymru drwy arddangosfa drawiadol yn Sioe Frenhinol Cymru eleni. 

Mae arddangosfa pen bwrdd y ffermwr yn adlewyrchu’r hyn sydd i’w weld ar fyrddau cegin ac mewn swyddfeydd ffermydd ledled Cymru, wrth i filoedd o deuluoedd fferm geisio ymdopi â mynydd o bolisïau a rheoliadau.

Gyda’i gilydd, mae’r gwaith papur sy’n ymwneud â’r polisïau a’r rheoliadau y mae’r rhan fwyaf o ffermwyr yn gorfod cydymffurfio â nhw, megis y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (CFfC), cofnodion da byw a phlaladdwyr, rheolau iechyd anifeiliaid, ansawdd dŵr ac eithriadau gwastraff, yn cynnwys dros 4,000 o dudalennau A4. Pe bai’r tudalennau hynny’n cael eu gosod ben wrth ben, byddent yn ymestyn ddwywaith a hanner o amgylch prif gylch y Sioe Frenhinol.  

Y mis diwethaf, comisiynodd Llywodraeth newydd Cymru adolygiad annibynnol o’r baich rheoleiddio sy’n effeithio ar fusnesau ffermio Cymru, a fydd yn cael ei gynnal gan y ffermwr uchel ei barch o Aberhonddu, John Davies. Croesawodd NFU Cymru y cyhoeddiad hwnnw, ac mae arddangosfa bwrdd cegin yr undeb yn y Sioe Frenhinol yn pwysleisio ymhellach pam bod yr adolygiad hwn mor bwysig.  

Dywedodd Llywydd NFU Cymru, Abi Reader: “Wrth fwrdd y gegin mae curiad calon y fferm deuluol yng Nghymru.

Nid yn unig dyma’r man lle caiff bwyd blasus ei weini bob dydd, ond hefyd lle mae’r teulu’n dod at ei gilydd i drafod gwaith bob dydd ac i drosglwyddo gwybodaeth rhwng y cenedlaethau, gan gytuno ar gynlluniau a dyheadau ar gyfer y dyfodol. Mae’n fan ar gyfer chwerthin a dagrau, yn fan lle mae sioeau lleol yn cael eu trefnu a phantomeimiau CFfI yn cael eu hysgrifennu. I lawer, dyma hefyd swyddfa’r fferm. 

Ond mae baich rheoleiddio yn pwyso’n drwm ar y bwrdd cegin hwnnw. Drwy gydol y Sioe Frenhinol, byddwn yn arddangos bwrdd cegin tŷ fferm nodweddiadol gyda chasgliad o’r canllawiau a’r gofynion cadw cofnodion y mae teulu ffermio yn gorfod eu deall er mwyn cydymffurfio â pholisïau a rheoliadau’r llywodraeth. 

“Mae dogfennau sy’n ymwneud â’r CFfC, sydd ar ei ben ei hun yn cyfrif am 1,000 o dudalennau, ynghyd â chanllawiau a chofnodion eraill megis cofnodion da byw a phlaladdwyr, rheolau iechyd anifeiliaid, llyfrau gwaith ansawdd dŵr ac eithriadau gwastraff, yn dod i gyfanswm o dros 4,000 o dudalennau.

Pe bai’r 4,000 o dudalennau hynny’n cael eu gosod ben wrth ben, byddent yn ymestyn ddwywaith a hanner o amgylch prif gylch y Sioe Frenhinol, ac mae amcangyfrif ceidwadol yn awgrymu y byddai eu darllen yn cymryd dros 100 awr.

Nid ydym hyd yn oed wedi ystyried y wybodaeth ychwanegol sy’n ofynnol i’r rhai sy’n dymuno ymuno â haenau dewisol a chydweithredol y CFfC, na’r gwaith papur sy’n gysylltiedig â gweithgareddau gwirfoddol ychwanegol megis Sicrwydd Fferm neu gytundebau’r gadwyn gyflenwi. Nid yw’r ffigur hwn ychwaith yn cynnwys gwaith sy’n ymwneud â CThEF na’r gweithgareddau sy’n gysylltiedig â rhedeg busnes ariannol. 

“Mae’n rhaid cyflawni hyn oll ochr yn ochr â gofalu am y cnydau a’r da byw ar y fferm, eu rheoli, a chynnal a gwella’r amgylchedd a ffermir. 

“Rwyf am fod yn glir, mae gan reoleiddio rôl hanfodol wrth gynnal y safonau uchel sy’n allweddol i sicrhau hyder defnyddwyr ac i werthu ein cynnyrch mewn marchnadoedd gartref a thramor. Rydym yn derbyn bod yn rhaid i’n busnesau gydymffurfio â rhai amodau a bod yn destun archwiliadau yn gyfnewid am gymorth gan y llywodraeth.

Ond rhaid i’r rheolau hyn hefyd fod yn gymesur, yn ymarferol ac yn gydlynol. Mae maint a chymhlethdod y rheolau presennol yn rhoi pwysau anghynaladwy ar fusnesau ffermio. 

“Yn y byd ar-lein hwn, mae’n rhy hawdd yn aml paratoi a chyhoeddi dogfennau heb ystyried sut y byddant yn edrych ar bapur, neu effaith gronnol yr holl ddogfennau hyn.

Gadewch inni beidio ag anghofio bod angen i’n teuluoedd ffermio ddarllen a deall yr holl ganllawiau, rheolau a rheoliadau hyn. Mae’n rhaid iddynt wneud hynny er mwyn cynnal y cofnodion sy’n ofynnol gan ddeddfwriaeth, ffermio yn unol â’r canllawiau, sicrhau na chaiff eu ceisiadau eu gwrthod, a gobeithio y byddant yn cydymffurfio yn llwyr pan fydd yr arolygydd yn cyrraedd.

Os bydd camgymeriad bach mewn cofnodion neu gydymffurfiaeth, gellir bod yn sicr y cyfeirir at frawddeg benodol mewn un o’r 4,000 o dudalennau hynny, a gall y ffermwr wynebu’r embaras o dderbyn llythyr rhybuddio ar y gorau, neu sancsiwn ariannol llym yn fwy tebygol. 

“Tra bod yn rhaid i’r ffermwr feddu ar ddealltwriaeth lawn o’r holl bolisïau a rheoliadau amrywiol hyn, nid oes unrhyw arolygydd nac asiantaeth unigol sy’n gallu archwilio’r holl fferm. Yn lle hynny, mae angen nifer o adrannau’r llywodraeth ac asiantaethau rheoleiddio i wirio cydymffurfiaeth. 

“Y mis diwethaf croesawom gyhoeddiad Gweinidog y Cabinet y byddai John Davies yn arwain adolygiad annibynnol i archwilio’r baich biwrocrataidd ar fusnesau ffermio Cymru. Roedd yr adolygiad hwn yn un o ofynion allweddol maniffesto etholiadol NFU Cymru, ‘Tyfu Ymlaen’, ac yn un o’r ymrwymiadau a wnaed gan Blaid Cymru yn ystod ei 100 diwrnod cyntaf mewn Llywodraeth. 

“Rhaid i’r adolygiad hwn ganolbwyntio ar symleiddio’r gofynion ar y fferm, lleihau dyblygu, gwella eglurder a sicrhau bod gweithredu polisïau yn ymarferol ac yn gyflawnadwy i fusnesau ffermio ar lawr gwlad. 

“Mae NFU Cymru wedi ymrwymo i weithio’n gadarnhaol ac yn adeiladol gyda’r adolygiad annibynnol er mwyn sicrhau’r newid y mae’r bwrdd cegin hwn yn ei ddangos mor glir ei fod ei angen.”


Gofynnwch gwestiwn i ni am y dudalen hon

Unwaith y byddwch wedi cyflwyno’ch ymholiad bydd NFU Cymru yn cysylltu â chi ac, os yw’n briodol, bydd eich cwestiwn yn cael ei drosglwyddo i un o’n timau polisi.

You have 0 characters remaining.

By completing the form with your details on this page, you are agreeing to have this information sent to the NFU for the purposes of contacting you regarding your enquiry. Please take time to read the NFU’s Privacy Notice if you require further information.