Mae NFU Cymru wedi canmol llwyddiant Sioe Sir Meirionnydd, wrth i’r digwyddiad wneud ei ddychweliad hir‑ddisgwyliedig i Ddolgellau am y tro cyntaf ers 23 mlynedd.
Rhoddodd y sioe gyfle pwysig i NFU Cymru gwrdd â’r aelodau, gwleidyddion a chynrychiolwyr o bob rhan o’r gymuned amaethyddol, gan ddathlu’r gorau o amaeth a bywyd gwledig ym Meirionnydd.
Yn ystod y diwrnod, cyfarfu NFU Cymru ag Elwyn Vaughan AS a Beca Brown AS i drafod nifer o faterion dybryd sy’n wynebu ffermio yng Nghymru. Ymhlith y materion a drafodwyd oedd effaith barhaus tywydd sych, dwyseddau pori ucheldir a’u rôl wrth liniaru effaith tanau gwyllt, Clefyd y Tafod Glas, a’r trothwy 182 diwrnod ar gyfer tai gwyliau sy’n cael eu gweithredu gan fusnesau fferm sydd wedi arallgyfeirio.
Dywedodd Aled Jones, Cadeirydd NFU Cymru Meirionnydd: “Roedd yn wych gweld Sioe Meirionnydd yn ôl yn Nolgellau ac i weld cefnogaeth mor gryf gan y gymuned ffermio leol.
Mae sioeau amaethyddol yn hynod bwysig, nid yn unig fel cyfle i ni gwrdd ag aelodau a thrafod y materion sy’n effeithio ar eu busnesau, ond hefyd fel cyfle i ddathlu’r gwaith caled, ymroddiad a’r gwydnwch sy’n diffinio ffermio yn y rhan hon o Gymru.
Mae digwyddiadau fel hyn yn dod â’r gymuned at ei gilydd, yn arddangos y gorau o’n stoc a’n cynnyrch, ac yn darparu llwyfan hollbwysig ar gyfer sgyrsiau adeiladol am y polisïau sy’n siapio ein sector.”
Roedd NFU Cymru hefyd yn falch o gefnogi prosiect Nôd Clust Cymru, sy’n gweithio i gadw traddodiad a hanes nodi clustiau ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Roedd Elain Gwilym o Gymdeithas Defaid Mynydd Cymreig yn y sioe yn casglu gwybodaeth ar gyfer y prosiect, sy’n anelu at gasglu a digideiddio cofnodion traddodiadol nodi clustiau.
Mae NFU Cymru yn bartner yn y fenter, a fydd yn dod â gwybodaeth hanesyddol at ei gilydd mewn adnodd digidol, gan helpu i ddiogelu’r rhan bwysig hon o dreftadaeth ffermio Cymru ac i’w gwneud yn fwy hygyrch i’r dyfodol.
Dywedodd Cadeirydd Sioe Sir Meirionnydd ac aelod o Grŵp Cenhedlaeth Nesaf NFU Cymru, Rhodri Wyn Jones: “Rydym yn hynod falch o lwyddiant y sioe eleni a’r gefnogaeth rydym wedi’i derbyn gan arddangoswyr, cystadleuwyr, noddwyr, gwirfoddolwyr ac ymwelwyr. Mae dod â’r sioe yn ôl i Ddolgellau ar ôl 23 mlynedd wedi bod yn ymdrech enfawr, felly mae gweld y gymuned amaethyddol a’r gymuned ehangach yn dod at ei gilydd i’w chefnogi wedi bod yn hynod o werth chweil.”