Prif siaradwr y noson oedd Gwion Parry, a rannodd ganfyddiadau o’i Ysgoloriaeth Amaeth Nuffield a’i daith astudio ryngwladol, gan archwilio sut mae gwledydd gwahanol yn asesu ac yn gwobrwyo ansawdd bwyta cig eidion, yn ogystal ag astudio’r amrywiaeth o systemau cynhyrchu a gorffen eidion a ddefnyddir yn y gwledydd yr ymwelodd â hwy.
Yn ystod ei gyflwyniad, amlygodd Gwion sut mae system raddio’r DU yn cymharu â’r rhai a ddefnyddir dramor, yn enwedig yn Awstralia, lle mae nifer llawer mwy o nodweddion sy’n gysylltiedig ag ansawdd bwyta yn cael eu mesur i benderfynu’r pris i gynhyrchwyr. Cododd gwestiynau ynghylch a yw dull presennol y DU yn adlewyrchu’n llawn ansawdd y cig eidion a gynhyrchir gan ffermwyr.
Pwysigrwydd ansawdd bwyta
Gan dynnu ar ei ymweliadau â De America, Awstralia a Seland Newydd, rhannodd Gwion hefyd arsylwadau ymarferol ar systemau bridio, trefniadau bwydo a chysondeb cynhyrchu, gan bwysleisio pwysigrwydd ansawdd bwyta dibynadwy a chydnabyddedig i ateb disgwyliadau defnyddwyr a marchnadoedd sy’n newid.
Cafodd y gynhadledd hefyd anerchiad gan Lywydd NFU Cymru, Aled Jones ar ddiwedd ei dymor, a fyfyriodd ar y gwaith helaeth a wnaed i lunio’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Tynnodd sylw hefyd at gryfder teimlad ar draws y diwydiant yn sgil y cyhoeddiadau diweddar ar dreth etifeddiant ac ailadroddodd yr angen am ymgysylltu adeiladol parhaus â gwleidyddion ar ran ffermydd teuluol.
Wrth siarad ar ôl y gynhadledd, dywedodd Cadeirydd Sir Meirionnydd NFU Cymru, Aled Jones: “Cyflwynodd Gwion Parry gyflwyniad hynod ddiddorol, gan gynnig persbectif rhyngwladol gwerthfawr ar sut mae ansawdd bwyta yn cael ei fesur a’i wobrwyo mewn rhannau eraill o’r byd. Roedd y noson yn gyfle rhagorol i aelodau fyfyrio ar sut y gall marchnadoedd y dyfodol ddatblygu a beth y gallai hynny ei olygu i gynhyrchwyr cig eidion yma ym Meirionnydd.”