Paul Williams
Dirprwy Lywydd NFU CymruMae Paul Williams yn ffermio da byw yng Nghae Haidd, Nebo, ger Llanrwst, mewn partneriaeth â'i wraig, Dwynwen, ac mae ganddynt dri o blant.
Mae Paul Williams yn ffermio da byw yng Nghae Haidd, Nebo, ger Llanrwst, mewn partneriaeth â'i wraig, Dwynwen, ac mae ganddynt dri o blant.
Mae Paul wedi bod yn aelod gweithgar o NFU Cymru ers dros 20 mlynedd ac mae wedi gwasanaethu'n flaenorol fel Cadeirydd Sir Clwyd. Bu'n allweddol wrth drefnu'r arddangosfa eiconig o 5,500 pâr o esgidiau glaw a osodwyd y tu allan i'r Senedd yn 2024 i ddangos gwrthwynebiad y diwydiant i fframwaith y Cynllun Ffermio Cynaliadwy gan Lywodraeth Cymru ar y pryd.