Ymunwch fel Myfyriwr a Ffermwr Ifanc NFU Cymru

Mae aelodaeth Myfyrwyr a Ffermwyr Ifanc NFU Cymru am ddim i fyfyrwyr ac aelodau CFfI 30 oed ac iau. Mae'n rhoi cyfle i chi gael llais a chyfrannu tuag at ddyfodol amaethyddiaeth a garddwriaeth, a byddwch yn elwa o fynediad at arbenigwyr diwydiant, cylchgronau rheolaidd a gwybodaeth drwy e-bost, a chynigion i arbed arian. Rhowch eich cyfeiriad e-bost, dyddiad geni, ac os ydych chi'n gwybod am rif aelodaeth sy'n gysylltiedig â'ch cyfeiriad e-bost, gallwch ei nodi isod hefyd.

Pam ymuno ag NFU Cymru?

Gyda'n gilydd, ni yw llais ffermio Cymru

Mwy o lais gyda'n gilydd

Rydym yn llais drosoch chi a dros ffermio yng Nghymru. Y llynedd casglodd ein hymgyrch Stopiwch y Dreth Fferm Deuluol 277,000 o lofnodion.

Cryfach gyda'n gilydd

Cewch fynediad at gynlluniau ac adnoddau cadarn i adeiladu busnes fferm cryfach.

Doethach gyda'n gilydd

Cewch yr wybodaeth leol a rhanbarthol ddiweddaraf, cyngor ac arweiniad arbenigol ac adroddiadau sector allweddol.

Arbed gyda'n gilydd

Manteisiwch ar wobrau a gostyngiadau penodol i aelodau ar ofal iechyd, cerbydau, tanwydd a mwy.

Dod at ein gilydd

Rhwydweithiwch â ffermwyr eraill, cysylltwch ag arbenigwyr y sector ac ymunwch â'n cymuned.

Diogel gyda'n gilydd

Mynnwch gyngor cyfreithiol ac ariannol arbenigol yn gyflym ac yn hawdd, yn syth o'ch ffôn.

Ymunwch heddiw

Neu ffoniwch linell recriwtio NFU ar 0370 428 1401 i siarad â'n cynghorwyr cyfeillgar.

Please note: NFU Student & Young Farmer membership is free of charge.