Ein hanes

Mae'r NFU wedi bod yn cynrychioli ffermwyr a thyfwyr am dros 110 o flynyddoedd. Rydym wedi ymrwymo i wneud hynny am 100 yn fwy.

Ar 10 Rhagfyr 1908, cynhaliwyd cyfarfod mewn rhagsiambr yn Sioe Smithfield i drafod pe bai modd ffurfio sefydliad cenedlaethol i gynrychioli buddiannau ffermwyr. Y canlyniad oedd Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr, sef, yr NFU.

Gweithiodd Llywydd cyntaf yr Undeb, Colin Campbell, yn ddiflino i gychwyn canghennau newydd, annog aelodaeth ac i sefydlu credadwyaeth yr NFU gyda Llywodraeth yn ystod cyfnod pan oedd ffermio yn dioddef y dirwasgiad mwyaf hir a dwfn yn ei hanes, wrth i fewnforion o rawn rhad a chig rhewedig lifo i’r wlad o dramor.

O’r dechreuadau diymhongar ac anodd hynny y tyfodd yr NFU i fod yn un o’r cymdeithasau masnach fwyaf effeithiol ac uchel ei pharch ym Mhrydain.

Mabwysiadwyd NFU Cymru

Y sir Gymreig gyntaf i ymuno â’r NFU oedd Brycheiniog a Maesyfed ym 1908 a dilynwyd hi gan weddill y siroedd yn ystod yr ychydig flynyddoedd ar ôl hynny. Ym 1968, etholodd Cyngor Cymru ei Gadeirydd cyntaf o blith ei aelodau ac felly cychwynwyd y traddodiad hir o Gadeiryddion a Llywyddion yn yr NFU yng Nghymru.

Mabwysiadwyd yr enw NFU Cymru ym 1999 ar yr un pryd â dyfodiad datganoli llywodraeth yng Nghymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru.

Cyn Cadeiryddion a Llywyddion NFU Cymru:

Cadeiryddion:

1968 - 1970: Sir Meuric Rees
1971 - 1973: Idris Davies
1974 - 1976: D.L. Carey Evans
1977 - 1979: T.W. Rosser
1980 - 1982: J. Gwyn Griffiths
1982 - 1984: Alun Evans
1985 - 1987: Maurice Trumper
1988 - 1990: T. Geraint Davies
1991 - 1993: E. Trevor Davies
1994 - 1997: John Lloyd Jones

Llywyddion:

1998 - 2001: Hugh Richards
2002 - 2005: Peredur Hughes
2006 - 2010: Dai Davies
2010 - 2014: Edmund Bailey
2014 - 2018: Stephen James
2018 - 2022: John Davies
2022 - yn bresenol: Aled Jones

Canmlwyddiant yr NFU yn 2008

Dathlodd NFU ei Chanmlwyddiant yn 2008 – lawrlwythwch linell amser ein hanes yma.

100 years of the NFU timeline_58051

Un o’r sawl modd i’r NFU ddathlu’r digwyddiad oedd trwy gyhoeddi llyfr cynhwysfawr yn adrodd hanes yr NFU.

Mae From Campbell to Kendall: A History of the NFU a ysgrifenwyd gan Is-lywydd yr NFU Guy Smith, yn gatalog deniadol o hanes ffermio ym Mhrydain. Yn llawn dop o luniau hanesyddol, cartwnau a bywgraffiadau Llywyddion yr NFU, gallir cael y llyfr clawr caled drwy Amazon yma.


Gofynnwch gwestiwn i ni am y dudalen hon

Unwaith y byddwch wedi cyflwyno’ch ymholiad bydd NFU Cymru yn cysylltu â chi ac, os yw’n briodol, bydd eich cwestiwn yn cael ei drosglwyddo i un o’n timau polisi.

You have 0 characters remaining.

By completing the form with your details on this page, you are agreeing to have this information sent to the NFU for the purposes of contacting you regarding your enquiry. Please take time to read the NFU’s Privacy Policy if you require further information.

This site is protected by reCAPTCHA and the Google Privacy Policy and Terms of Service apply.