NFU Cymru - Cangen Meirionnydd yn cyfarfod gyda'r Arglwydd Dafydd Ellis Thomas AS

21 September 2020

Gyda gwir bryder ymysg aelodau yn y sir o’r goblygiadau bydd deddfwriaeth o amgylch safon dwr yn ei gael ar fusnesau fferm pan cyflwynir hwy, roedd yr aelodaeth yn awyddus i gael y cyfarfod gyda’r Arglwydd Ellis Thomas.

Y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth a’r Aelod Senedd lleol, Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas oedd yn annerch pwyllgor diweddaraf NFU Cymru yn Sir Feirionnydd.

Amlinellodd yr aelodau bod cyflwyno mesurau NVZ Cymru gyfan gyfystyr a ‘chymryd gordd i dorri cneuen’.  Roedd y dystiolaeth annibynnol sydd ar gael gan gorff amgylcheddol, Cyfoeth Naturiol Cymru, yn dangos yn glir bod mwyafrif helaeth dyfroedd yng Nghymru yn sgorio yn ‘dda’ am ansawdd dwr.

Felly roedd yn anodd deall pam bod canllawiau mor llym angen eu cyflwyno pan fod y dystiolaeth yn awgrymu i’r gwrthwyneb yn llwyr.

Pwysleisiwyd y gall cyflwyno y rheoliadau newydd yma gael effaith ar niferoedd y gwartheg sydd yn cael ei cadw oddi mewn i’r sir.  Byddai costau is-adeiledd fferm fyddai ei angen ei gyrraedd y gofynion yn gyrru llawer o ffermwyr allan o gadw gwartheg.  Sgil effaith hynny fyddai lleihad mewn pori gan wartheg ar yr ucheldir, fyddai yn ei dro yn cael effaith negyddol ar gynefinoedd bywyd gwyllt.

Yn ystod y cyfarfod fe drafodwyd cynigion newydd i symleiddio cynllun BPS a’r Cynllun Datblygu Gwledig sydd allan i ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru. 

Atgoffwyd yr aelodau i annog cymaint a phosib o’u cyfoedion i lenwi arolwg yr Ucheldir gan NFU Cymru fydd yn cau ar y 30ain o Fedi 2020 .

Wrth ymateb ar ddiwedd y cyfarfod, fe ddywedodd Yr Arglwydd Elis-Thomas AS: “Mae’r cyfarfodydd hyn rwy’n eu cael gyda’r Undeb bob amser yn werthfawr er mwyn clywed a gwrando ar farn a phryderon yr amaethwyr yn fy etholaeth. Byddaf yn parhau i drafod gyda’r Gweinidog Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig y materion sy’n cael eu cyfleu i mi gan y diwydiant yn Nwyfor Meirionnydd.”

Meddai Rhodri Jones, Cadeirydd Sir Feirionnydd: “Dwi’n teimlo bod ein systemau ffermio gwartheg yn amgylcheddol gyfeillgar iawn.  Mae ffermwyr y sir wedi gweithio i wireddu pori gan wartheg o dan sawl cynllun amaeth amgylcheddol yn y gorffennol.”

Gorffennodd drwy ddweud: “Siom fyddai gweld yr un Llywodraeth yn deddfu i wneud i ffwrdd a’r fuches, yn enwedig pan mae’r dystiolaeth yn pwyntio i’r gwrthwyneb ar ansawdd dwr.”


Ask us a question about this page

Once you have submitted your query someone from NFU Cymru will contact you. If needed, your query will then be passed to the appropriate NFU policy team.

You have 0 characters remaining.

By completing the form with your details on this page, you are agreeing to have this information sent to the NFU for the purposes of contacting you regarding your enquiry. Please take time to read the NFU’s Privacy Policy if you require further information.

This site is protected by reCAPTCHA and the Google Privacy Policy and Terms of Service apply.